Y mefus yn dechrau dwyn ffrwyth

Dy’n ni’n tyfu ein mefus a’n tomatos yn yr ardd gefn, ar ôl cael problemau gyda’r cnydau hyn ar y rhandir. Does neb yn argymell tyfu tomatos ar randiroedd am eu bod nhw’n fwy tebygol o ddal blight yng nghanol yr holl blanhigion eraill, a gyda’r mefus, roedd rhyw lygoden neu wiwer yn dwyn ein ffrwyth ni i gyd. Mas yn yr ardd, dyw’r tomatos heb fwynhau dros yr wythnosau diwethaf, ond maen nhw’n dechrau adfywio nawr bod yr haul yn gwenu. Ma’r mefus, ar y llaw arall, yn ffynu. Hapus iawn o gael llonydd a bach o gysgod yn lle diodde’r elfennau.

Cyhoeddwyd yn Ffrwythau | Rhowch sylw

Beth sy’n tyfu…

Oherwydd y tywydd llwydaidd dros yr wythnosau diwethaf, dyw pethau heb ddod ymlaen cystal ag arfer – ond ar ôl wythnos dda o haul mae’r llysiau a’r ffrwythau’n dechrau ailafael draw ar y rhandir. Dim ond riwbob ac ambell i goesyn o asbaragws ydyn ni’n eu pigo ar hyn o bryd, ond mae tipyn o bethau’n dechrau ymgartrefu – a dwi’n siŵr y cawn ni gnwd ddechau ‘ond i’r haul ‘ma beidio â diflannu’n rhy glou. Felly â ninnau’n agosau at fis Mehefin, dyma beth sy’n tyfu ar hyn o bryd…

Asbaragws. Dim llwyth, ond falle ddaw rhagor nawr ei bod hi’n fwy sych.

Mafon.

Garlleg. Mae’r gŵr wedi rhoi dail cyfardwf (comfrey) o gwmpas y rhain heddiw i atal chwyn. Ma rhain yn edrych yn dda ‘leni – fyddwn ni’n eu pigo nhw unwaith i’r dail sychu a throi’n felyn.

Spigoglys a letys. Fydd rhain yn falch o weld yr haul.

Cyfardwf. Y syniad tu ôl tyfu hwn yw defnyddio’r dail fel mulch, a dy’n ni hefyd yn rhoi’r dail mewn bin o ddŵr i greu hylif sy’n bwydo’r planhigion eraill. Ma nhw’n denu pryfaid hefyd.

Tato.

Pwmpenni. Bach iawn ac ychydig yn druenus ar hyn o bryd – ond maen nhw wedi cael gorchudd o gompost heddiw, a byddan nhw’n gwerthfawrogi’r haul ‘ma hefyd.

Cwrens duon. Ma rhywbeth wedi bod yn bwyta rhain er gwaetha’r rhwyd. Un o anfanteision tyfu ar randir – yn aml bydd rhyw aderyn/llygoden/gwiwer/duw a wyr beth yn cael gafael ar y cnydau cyn y gallwch chi.

Blodfresych a phannas. Dyw’r panas heb wneud cystal ag oedden ni wedi gobeithio. Credu falle taw’r rholiau papur toiled sy’ ar fai – do’n ni ddim digon goflaus i orchuddio’r rholyn yn llwyr wrth blanu allan, ac wedyn mae’r cardfwrdd wedi cael y dŵr yn hytrach na’r banasen. Ond dyw’r tywydd heb helpu chwaith.

Melyn Mair. Dy’n ni ‘di plannu rhain wrth ymyl y moron (sy’ heb ddod i’r golwg eto) yn y gobaith y byddan nhw’n helpu i atal y pryf moron.

Pys a dau blanhigyn ffa ffrengig o dan y poteli llaeth.

Egin ysgewyll, egin sbigoglys, egin letys ac egin gennin.

Ffa. Ma rhyw lindys wedi cael hwyl ‘da rhain, ond ma ffa’r rhan fwyaf o bobl yn edrych fel hyn draw ar y rhandiroedd.

Cyhoeddwyd yn Ffrwythau, Garddio, Llysiau | Rhowch sylw

Rhagor o ryseitiau riwbob…

Wedi trial cwpwl o bethau eraill ‘da’r riwbob dros yr wythnosau diwetha…

Treiffl riwbobryseit Delia Smith. Rhoddes i jam riwbob rhwng y darnau o sponge, a weithiodd hynna’n dda.

Ysgytlaeth banana a rum… a riwbobryseit Levi Roots. Ysgytlaeth banana a rum yw e i fod, ond ddefnyddies i’r hufan iâ riwbob y gwnes i ychydig wythnosau nôl.

Cyhoeddwyd yn Ryseits | Rhowch sylw

We can’t go on eating like this

Fel rhan o ŵyl fwyd Gorllewin Cymru, aethon ni i’r drafodaeth hon – gyda’r panelwyr Simon Wright, Joanna Blythman, Richard Arnold a Patrick Holden. Dwi wedi sôn o’r blaen fod y gŵr yn ymwneud ag ymgyrch Siop y Bobl yng Nghaerdydd, felly roedd y drafodaeth yn gyfle i ystyried rhai syniadau. Mae e wedi ymhelaethu fan hyn… Am y tro rydw i jyst am nodi rhai pwyntiau diddorol i gnoi cil arnyn nhw.

Yn y byd heddiw, mae biliwn o bobl yn newynu a biliwn o bobl dros eu pwysau.

Er mai dyma a welir fel y ffordd orau o gynhyrchu bwyd ‘rhad’ – nid yw’r system gynhyrchu bwyd ddiwydiannol sydd ohoni yn gynaliadwy (tyfu ar raddfa enfawr/ ychwanegu cemegau/ cnydau GM) – ond mae’r costau’n rhai cudd ar y cyfan… Gordewdra, niwed i’r amgylchedd, system sy’n annheg i gynhyrchwyr ac yn y blaen… Anodd perswadio pobl i newid y drefn am fod costau’r ffyrdd amgen yn rhai hysbys (ieir batri vs ieir maes)

Addysg – diffyg addysg bwyd mewn ysgolion, o ran sgiliau coginio sylfaenol, a gwybod o ble mae’n bwyd ni’n dod a’r hyn sydd o’i le yn y diwydiant bwyd (y costau cudd/ anhewch/ camdriniaeth). Codwyd pwynt am gontractau ffreuturau ysgolion – ysgolion yn creu gerddi ac ati i geisio addysgu’r plant, ond dim modd coginio’r bwyd yn y ffreutur.

Bod gormod o bŵer gan yr archfarchnadoedd mawr – ond bod dim un ateb i bawb. Angen gweithio ar lunio atebion lleol.

Ym marn Blythman – does dim pwynt i gynhyrchwyr gwyno am archfarchnadoedd os ydyn nhw’n mynd i barhau i werthu eu cynnyrch drwyddyn nhw. Ewch ati i ganfod ateb amgen achos allwch chi ddim newid yr archfarchnadoedd. Ond, ym marn Arnold – rhaid cydweithio â’r archfarchnadoedd ar hyn o bryd achos does dim ateb amgen – ond dylid gweithio tuag at gynnig atebion amgen ymarferol hefyd.

Brand – peth hollbwysig ym marn Arnold, sef cyfarwyddwrbrand Calon Wen a Proper Welsh Milk. Archfarchnadoedd Prydain yw’r unig rhai yn Ewrop sy’n cuddio cefndir y cynnyrch tu ôl label yr archfarchnad. Drwy sicrhau bod brandiau Calon Wen a Proper Welsh yn rhai cryf iawn – mae’n golygu na all y siopau gael gwared arnyn nhw dros nos. Tra bod ffermwyr annibynnol sy’n dod o dan label yr archfarchnad yn gallu colli eu contractau dros nos.

Pwysigrwydd y cyfryngau cymdeithasol. Bydd un neges ar twitter yn cwyno am ddiffyg cynnyrch annibynnol yn eich Tesco lleol yn cael ymateb cyflymach na’r gweithdrefnau cwyno swyddogol. Angen manteisio ar y grym hwnnw!

Cyhoeddwyd yn Bwyd | Rhowch sylw

Gŵyl Fwyd Gorllewin Cymru

Aethon ni draw i Ŵyl Fwyd Gorllewin Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddydd Sul. Gŵyl fach neis mewn lleoliad hyfryd – ond piti bod y wefan braidd yn rybish.

I ddechrau, aethon ni draw i arddangosiad gan Bryn Williams. Wnaeth e goginio pryd o bysgod – lleden chwithig mewn bag gyda chorbwmpen ac olewydd. Roedd e’n siarad yn dda ac yn barod iawn i ateb cwestiynau’r gynulleidfa. Rhoddodd e gyflwyniad da ar sut i dorri lledod (dwi’n teimlo y gallen i roi cynnig ar wneud hyn gartref nawr) a dweud mai un o’r prif broblemau wrth dorri pysgod yw awch y gyllell. Dyw e ddim yn syndod wedi meddwl, ond dwi’n druenus o wael am gofio naddu cyllyll. Yn ôl Bryn, pe bai e’n torri pysgod yn y bwyty, bydde fe e’n naddu ar ôl bob pum pysgodyn…. Dim unwaith y flwyddyn fel fi. Cafodd pawb yno flas o’r pryd ar y diwedd…

Heblaw’r arddangosiad, aethon ni i drafodaeth ddifyr am gynaliadwyedd y diwydiant bwyd (mwy am hynny wedyn) a chrwydro’r stondinau amrywiol – gan flasu gwin Glyndŵr a chwrw Jacobi, sydd ill dau yn neis iawn…

Ar ôl cinio o fyrgers baedd gwyllt gan Harmony Herd, aethon ni am dro bach i weld y planhigion…

…ac wedyn nôl i’r stondinau i fofyn bach o gaws i swper.

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Garddio | Rhowch sylw

Tocyn Diwrnod

Ynghanol yr holl hwyl riwbobaidd, anghofies i sôn am yr antur di-gar cyntaf. Y cyrchfan dethol oedd… Bryste!

Doedden ni heb benderfynu beth i’w wneud ymlaen llaw, felly anfonodd y gŵr decst at ffrind o’r ddinas ar  y trên. Ar ôl cael cwpwl o awgrymiadau, aethon ni am dro i mewn i ganol y dre’ o’r orsaf – heibio i un o furluniau Banksy…

Image

…wedyn lan i bentre Clifton am ginio. Roedden ni wedi cael dau awgrym – ond roedd y cyntaf, sef  y Primrose Cafe, yn llawn dop – felly fe aethon ni i’r Arch House Deli. Alla i argymell y lle yn gryf os fyddwch chi byth yn chwilio am ginio ym Mryste. Llwyth o fwydydd lleol diddorol, ac awyrgylch ymlacedig hyfryd. Ar ôl cinio (a chwrw lleol) ymlaen â ni i bont Clifton.

Image

Ar ôl hynny, aethon ni am sgowt i’r Amgueddfa cyn ymlwybro gartref.

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys | Rhowch sylw

Hufen Iâ Riwbob

Cynhwysion: 300g o goesau riwbob pinc, 4 llwy fwrdd o ddŵr, 85g siwgr, 300ml o hufen chwipio, 3 melynwy, 2 lwy de o siwgr eisin, 1 llwy de o bast fanila/ vanilla extract

Cam1. Os oes gyda chi 3kg o riwbob – dethol y darnau mwya pinc, a’u torri’n ddarnau man. Rhoi’r rhain mewn sosban gyda’r siwgr a’r dŵr, dod â’r gymysgedd i ferwi, a’i adael i ffrwtian am ddeg munud. Gadael i hwn oeri – a’i flendio.

Cam 2. Chwisgo’r melynwy gyda’r siwgr eisin tan fod y gymysgedd lliw melyn golau ac yn ewynnog. Chwisgo’r hufen tan ei fod yn ffurfio copaon meddal, wedyn cymysgu’r wyau, y fanila a’r piwrî riwbob mewn i’r hufen yn ysgafn.

Cam 3. Rhoi’r cwbwl mewn blwch hufen iâ a’i rewi. Gallwch chi droi’r gymysgedd cwpwl o weithiau dros yr oriau nesaf – ond dwi byth yn gwneud hynny. Bydd agen dod â’r hufen iâ allan i ddadleth rhywfaint cyn gweini – am ryw 20 munud.

Cyhoeddwyd yn Llysiau, Ryseits | 1 Sylw