Hufen Iâ Riwbob

Cynhwysion: 300g o goesau riwbob pinc, 4 llwy fwrdd o ddŵr, 85g siwgr, 300ml o hufen chwipio, 3 melynwy, 2 lwy de o siwgr eisin, 1 llwy de o bast fanila/ vanilla extract

Cam1. Os oes gyda chi 3kg o riwbob – dethol y darnau mwya pinc, a’u torri’n ddarnau man. Rhoi’r rhain mewn sosban gyda’r siwgr a’r dŵr, dod â’r gymysgedd i ferwi, a’i adael i ffrwtian am ddeg munud. Gadael i hwn oeri – a’i flendio.

Cam 2. Chwisgo’r melynwy gyda’r siwgr eisin tan fod y gymysgedd lliw melyn golau ac yn ewynnog. Chwisgo’r hufen tan ei fod yn ffurfio copaon meddal, wedyn cymysgu’r wyau, y fanila a’r piwrî riwbob mewn i’r hufen yn ysgafn.

Cam 3. Rhoi’r cwbwl mewn blwch hufen iâ a’i rewi. Gallwch chi droi’r gymysgedd cwpwl o weithiau dros yr oriau nesaf – ond dwi byth yn gwneud hynny. Bydd agen dod â’r hufen iâ allan i ddadleth rhywfaint cyn gweini – am ryw 20 munud.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Llysiau, Ryseits. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Hufen Iâ Riwbob

  1. Hysbysiad: Rhagor o ryseitiau riwbob… | Hadau

  2. Hysbysiad: Oni heuir ni fedir: riwbob | Hadau

Gadael sylw