Helo te

Noswaith dda.

Ma’i wedi mynd braidd yn hwyr i ysgrifennu llith o gyflwyniad heno (dwi angen mynd i goginio swper mewn munud), felly dim ond tamaid i aros pryd yw hwn. Fe gewch chi’r manylion ryw amser arall yn y man…

Yn fras iawn, dyma flog newydd – gan ei fod e’n ddiwrnod pethau bychain – i sôn am y rhandir dw i a’r mistar yn ei gadw yng nghanol Caerdydd.

Dy’n ni wedi bod yn cadw’r rhandir ers tua dwy flynedd, ac er gwaetha’r gwaith caled, a thipyn o fethiannau ar hyd y daith, ry’n ni wrth ein bodd â’r lle a’r holl bethau rhyfeddol a rhyfedd ry’n ni’n eu tyfu yno… megis y corbwmpenni melyn hyfryd dwi ar fin eu coginio i swper.

o.n. dyw’r ciwcymbr ddim byd i wneud â’n swper ni heno – dwi jyst yn hynod browd mai ni sy’ wedi’i dyfu e!

Cafod y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys a'i dagio yn . Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Helo te

  1. Dywedodd Carl Morris :

    Hen Wlad Fy Hadau?

  2. Dywedodd tatws :

    An onion, Carl, yn union.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s