Ac wedi elwch…

Tawelwch fu. Wel am flogiwr tila. Tri chofnod ac wedyn pymtheg mis o dawelwch. Ymddiheuriadau lu am fod mor annibynadwy, ond mae ‘na esgusodion ar y ffordd!

Y newyddion da yw ‘mod i wedi priodi llynedd. Ma’r mistar, bellach yn fistar go iawn, a finne’n fissys hefyd. Hynny yw, newyddion da i mi – roedd e’n amlwg yn newyddion drwg iawn i’r blog am fod trefnu rhestr gwesteion, llety, bwyd, blodau, ffrog ac ati wedi cymryd blaenoriaeth… Ond er i’r blog ddioddef, wnaethon ni ddim anghofio am y rhandir bach.

Gan fod y rhandir yn rhan eitha’ mawr o’n bywydau ni, ro’n i am adlewyrchu hynny yn y briodas. Yn ogystal â hynny (heb yn wybod i ni ar adeg y trefnu) fe ddewison ni briodi ar benwythnos y Cynhaeaf – felly roedd yr eglwys yn llawn llysiau a ffrwythau ta beth! Ar ben hynny, wnes i baratoi potiau o siytni, jam neu enllyn i’r holl westeion fel anrheg – roedd pob un o’r rhain yn cynnwys o leiaf un peth o’r rhandir. Gydag ychydig o help gan y mistar, fe baratoes i jam rhiwbob, enllyn betys, siytni tymhorol gyda chorbwmpenni, siytni pwmpen, a siytni rhiwbob a sinsir. Fe alla i argymell llyfr Pam Corbin yn gryf!

Efallai bod y thema llysiau wedi mynd i’n pennau ni braidd… Ddarlunies i ddelwedd ar gyfer y gwahoddiadau ac ati oedd yn cyfeirio at fyd natur.

Enwyd y byrddau ar ôl mathau o lysiau, a’n hytrach na roi enw ar bob bwrdd, roedd pacedi bach o hadau penodol (ac rwy’n falch dweud bod y rhan fwyaf o reini wedi diflannu erbyn diwedd y dydd, felly gobeithio bydd ambell i arddwr newydd yn arbrofi ‘da’u hadau newydd eleni!)

Yn lle cael un gacen fawr, wnaethon ni hefyd archebu amrywiaeth o gacennau bach â blas ffrwyth neu lysiau… Rhai crymbl fale, rhai mefus a rai moron. Wnes i addurn bach sili mas o glai i goroni’r cwbwl!

Yn y cyfamser, tra ‘mod i’n chwysu dros bot preserfio ac yn chwarae gyda darnau o glai, cadwodd y mister y rhandir i fynd. Yng nghanol popeth, (gydag ychydig o help gen i) fe dyfodd e dato, moron, brocoli, betys, sbigoglys, ffa, ffa Ffrengig, rhiwbob, ciwcymbr, corbwmpenni, pwmpenni, mafon, mefus, letys, winwns, garlleg ac erfyn. Roedd y pys, yn enwedig, yn llwyddiant mawr, tra bod y sgwash heb aeddfedu, a’r corn melys heb gael ddigon o haul hydrefol i ffynnu. Wnaethon ni hefyd gael y fraint o flasu ein hasbaragws ni’n hunain am y tro cyntaf! Dwy ddim yn siŵr a ddylen ni fod wedi gwneud hynny a dweud y gwir (chi i fod i aros nes ei fod e’n dair oed…) Ond dim ond ychydig bach y gwnaethon ni ei dorri, a dwi’n falch o ddweud ‘i fod e’n flasus iawn.

Felly, ar y cyfan, fe gawson ni’n dau a’r rhandir flwyddyn braf iawn y llynedd. A hithau’n flwyddyn newydd, dwi ‘di penderfynu ailafael yn y blogio, a gan fod y mistar wedi bod mor ffyddlon i’r patsh y llynedd, dwi ‘di gofyn iddo fe fy helpu.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s