Eira mân, eira mawr…

…ond dim ond am tua tair awr yng Nghaerdydd ddoe. Does dim eira i’w weld yn unman yn y ddinas heddiw, ac er ei bod hi dal yn oer – ma’i dipyn yn dwymach na phryd aeth y gŵr draw i’r rhandir bore ddoe – ar yr adeg waethaf bosibl.

Dwy ddim yn credu ei fod e wedi mynd yno i wneud dim mwy na chasglu cwpwl o gennin i swper – ond mae’n debyg bod hyd yn oed eu tynnu nhw o’r ddaear yn ddigon o job, a hithau wedi rhewi dros nos a fynte wedi mynd yno yng nghanol cawod o eira.  Felly, o ganlyniad, does dim newyddion diddorol o’r rhandir i rannu wythnos ‘ma… ym, sori am hynna.

Mewn newyddion arall, aethon ni am dro i Farchnad Glanyrafon bore ‘ma. Ro’n ni’n genfigennus iawn bod gydag un o’r stondinau draw ‘na frocoli porffor ishws. Dy’n ni’n croesi bysedd bod y tywydd ‘ma heb wneud niwed i’n rhai ni… Ond y prif reswm am sôn am y farchnad yw’r peis bach hyfryd cawsom ni o stondin Parsnipship, gan gynnwys rhywbeth o’r enw Glamorgan Crumble – oedd yn cynnwys cennin a chaws Caerffili. Falle allwn ni roi cynnig ar ail-greu’r ryseit gyda’n cennin ni gartref – ar yr amod na eith ein cennin ni’n sownd yn y ddaear mewn ffluwch arall o eira.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s