O’r diwedd

Fues i draw i’r rhandir am y tro cyntaf eleni bore ‘ma. Dyw pethau byth yn ddeniadol iawn yr adeg hon o’r flwyddyn, ond chwarae teg i’r gŵr – mae’r patsh yn daclus dros ben.

Y cyfan wnaethon ni ‘na heddiw oedd mynd â’r compost o’r tŷ draw a siecio ar y brocoli porffor… dal wythnos neu ddwy i fynd! Ma’r gŵr hefyd wedi plannu hadau blodfresych, ond ma rheini yn yr ystafell sbâr gyda ni gartref am y tro. Fyddwn ni’n dechrau plannu hadau’n weddol reolaidd o hyn ymlaen, ond bydd angen eu cadw nhw y tu mewn tan iddyn nhw afael, a tan i’r tywydd wella tamed bach.

Ma'r cennin yn dal i fynd er gwaetha'r oerfel

Cewyll y brocoli porffor a'r cwrens duon, a'r llwybrau taclus newydd

Y gornel gwrtaith... compost y llynedd (fyddwn ni'n ei adael i bydru), compost 'leni (fyddwn ni'n ychwanegu ato bob wythnos), a gwrtaith y Cyngor (tail y ceffylau o'r ysgol farchogaeth yn groes y ffordd!)

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s