Ysbrydoliaeth

Mae’r rhandir wastad yn edrych yn eitha’ llwm yr adeg hon o’r flwyddyn ac mae’n gallu bod yn anodd ffeindio’r ysbrydoliaeth i ddal ati. Pan gawson ni afael ar y patsh tua mis Hydref 2008, roedd e wedi mynd yn wyllt mwy neu lai. Dechreuon ni dacluso pethau’n ara’ bach, ond roedd y gaeaf cyntaf yn waith caled.

Ond wrth glirio’r tir un darn ar y tro a phlannu pethau dibynadwy fel garlleg a ffa (cyngor y criw o hen fois sy’n cadw patshys yng nghaeau Pontcanna), talodd yr ymdrech ar ei ganfed erbyn y Gwanwyn.

Tua’r un adeg, ro’n i’n dilyn cwrs ffotograffiaeth drwy Ffotogaleri, ac fe dynnes i gyfres o luniau o’r rhandiroedd ar gyfer fy mhrosiect terfynol. Bellach os ydw i’n whilo am ysbrydoliaeth i ddal ati tua’r adeg hon o’r flwyddyn, alla i droi at y lluniau hyn.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Gyda llaw. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s