Tatws Had

Tatws had yn yr ystafell sbar


Dwi ar ei hôl hi braidd yn sôn am hyn, ond fe aeth y gŵr i ôl tatws had penwythnos diwetha. Aeth e i siop Janes ar Cowbridge Road East – mae stoc dda o datws had gyda nhw fel arfer, a dwi’n credu ma’r hen fois ar y rhandiroedd awgrymodd y dylen ni fynd yno’n wreiddiol.

Eleni, ma’r gŵr wedi dewis tatws Arran Pilot (cnwd cynnar) a Romano (prif gnwd) – wy’n eitha siŵr nad oes rhesymeg tu ôl i’r dewis hwnnw, dy’n ni fel arfer jyst yn rhoi cynnig ar rywbeth ar sail yr enw. Ma fe wedi prynu 12 o bob un, ac maen nhw wedi bod yn egino mewn blychau wyau yn yr ystafell sbâr ers wythnos bellach.

Byddwn ni’n eu gadael nhw i dyfu egin am tua mis (falle llai), wedyn byddwn ni’n torri’r egin gan adael dim ond un ar bob taten, cyn eu plannu nhw dechrau mis nesa.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s