Picnic ar y patsh

Aethon ni ar gwrs pobi ddydd Sadwrn. Y gŵr sy’n ymddiddori mewn pobi, a daeth e o hyd i gyrsiau Geraint Roberts yn Ninas Powys drwy’r Real Bread Campaign. Dreulion ni ddiwrnod cyfan yn pobi amrywiaeth o dorthau (sbelt, grawn cyflawn, bara brag – roedd dewis o flodiau gwahanol ar gael), focaccia, bara soda, byns y Grog a byns sinamon. Dwi’n credu i’r ddau ohonon ni ddysgu llwyth, a dwi’n siŵr y bydd y gŵr yn sôn mwy am hynny maes o law…

Ta beth, ar ôl dod o’r cwrs â llwyth o gynnyrch (do’n i heb ddisgwyl pobi cweit cymaint), roedd e’n esgus gwych am bicnic ar y patsh ddydd Sul.

Focaccia gyda phuprau coch a feta, focaccia olewydd a feta, byn sinamon a bynen y Grog

Ond fe wnaethon ni weithio hefyd… Y prif bethau’r wythnos hon oedd plannu’r tatws prif gnwd a phlannu moron. Cymron ni fwy o ofal dros hidlo pridd y moron ‘lenni ar ôl tair blynedd o foron siâp rhyfedd… Daclusais i’r llwybrau gan fod ein planhigion mafon ni’n ymledu ac yn mynd bach yn wyllt. Ac fe blannodd y gŵr flodau i ddenu pryfed.

Hadau blodau gwyllt i ddenu pili-palas, gobeithio

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Wilias :

    Swnio’n gwrs difyr iawn. Ydi Geraint yn Gymro Cymraeg o ran diddordeb?

    • Dywedodd tatws :

      Helo – Sai’n siŵr faint o Gymraeg ma fe’n siarad erbyn hyn. Aeth e i ysgol gynradd Cymraeg, ond ysgol uwchradd diGymraeg.Sai’n credu ei fod e’n cynnig cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

  2. Hysbysiad: Diwrnod ar y rhandir mewn lluniau… | Hadau

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s