Celfi ail law a Friedensreich Hundertwasser

Ffeindies i’n hunan yn tynnu lluniau o’r celfi yn yr ystafell fyw wythnos diwetha, gyda rhyw led-fwriad o sgwennu blog (gan adeiladu ar stori’r seddi sinema) am sut a pham y gwnaethon ni bwynt penodol, ar ôl prynu’r tŷ, o beidio â rhuthro i lefydd fel Ikea a DFS a phrynu pentwr o gelfi i’w ddodrefnu’n ddiffwdan ar unwaith.

Alla i ddeall yn iawn pam fod gwneud hynny’n apelio – er bod maint y siop a’r tyrfaoedd sydd yno’n codi ofn arna i braidd – mae symlrwydd, fforddiadwyedd ac effeithlonrwydd y profiad o siopa yn rhywle fel Ikea yn hollol anhygoel (…a falle mai dyna pam y gwnaethon ni ond *osod cyfyngiad* ar eitemau Ikea yn ein cartref, yn hytrach na’u gwahardd yn llwyr).

Yn lle mynd i’r siopau mawr, aethon ni ati i geisio prynu celfi ail law o lefydd fel Jacob’s Market a’r Pumping Station. Yn anffodus, roedd y prisiau (yn enwedig yn yr ail le) dipyn y tu hwnt i’r hyn oedd gennym ni i’w sbario. Felly, yn y pen draw gwnaethon ni droi at y we, ac erbyn hyn mae’r rhan fwyaf o’r ystafelloedd yn ein tŷ bach twt yn rhyw fath o emyn i E-bay.

Ar ôl tynnu lluniau o’r three-piece-suite yr aeth y gŵr i’w gasglu o Gaergrawnt (cyn bwrw ‘mlaen i Billericay i fofyn bwrdd Ercol a phedair cadair, druan ag ef), dechreuais i gwestiynu pam ar ddaear ‘o’n i’n teimlo bod hyn yn gynnwys perthnasol ar gyfer y blog. Blog am y rhandir, nid rhyw fersiwn lo-fi o Good Houskeeping, yw hwn i fod.

Ond wedyn, wrth edrych ar y lluniau heddiw, mae’r ateb wedi fy nharo i. Neu â bod yn fanwl gywir, yr hyn sydd wedi fy nharo i yw’r print mawr o un o luniau’r artist o Awstria, Hundertwasser, sy’n hongian yn ein hystafell fyw.

Roedd Hundertwasser yn artist, yn bensaer, yn athronydd, ecolegydd a Duw a ŵyr beth arall… Mae ei waith celf yn drawiadol am y lliwiau cryf a llachar, ac mae’n llawn symbolau o fyd natur a bydoedd dynol:

Two large groups of motifs determine the content of Hundertwasser’s painting: one comprises a world of forms representing analogies to vegetative growth and an animistic nature; the other is the repetitive use of architectural code symbols: houses, windows, gables, fences, gates. It is one of the idiosyncrasies of Hundertwasser’s art that both motif groups are inextricably linked: vegetative forms seem static, to solidify to architecture in order to last, whereas everything constructed seems to have grown organically, to have been produced by nature herself.” (Hundertwasser’s Painting – Individuality and Significance)

Irinaland over the Balkans

Mae ei bensaernïaeth yn fwy radical os rhywbeth (neu falle ei bod hi jyst yn haws creu argraff fawr gydag adeilad na phaentiad…) Dau o’i syniadau mwyaf trawiadol yw tree tennants, sef coed sy’n tyfu drwy adeiladau:

They are a gift to the outside world, for the people who pass by the house. Man gives voluntairily small territories of his dwelling space back to nature, from which we unlawfully appropriated and destroyed large areas.” (Hundertwasser on the House)

…a window rights, sef hawl tenantiaid adeiladau i roi eu stamp eu hunain ar eu hanheddau o’r tu allan:

“…the repetition of identical windows next to each other and above each other as in a grid system is a characteristic of concentration camps…. A person in a rented apartment must be able to lean out of his window and scrape off the masonry within arm’s reach. And he must be allowed to take a long brush and paint everything outside within arm’s reach. So that it will be visible from afar to everyone in the street that someone lives there who is different from the imprisoned, enslaved, standardised man who lives next door.”  (Hundertwasser, Window Dictatorship and Window Rights)

Tree tennants yn Kunst Haus Wien, amguedfa Hundertwasser

O’r tu allan, mae’n tŷ teras bach ni’n bell o wireddu gweledigaeth Hundertwasser, ond dwi’n credu bod y gŵr o Awstria yn rhan o’r rheswm pam y ffeindies i’n hun yn tynnu llun o’r soffa a’n teimlo mod i am sôn amdani fan hyn. Y tu mewn, dy’n ni wedi cymryd ein hamser i ddechrau adeiladu nyth sy’n adlewyrchu pwy ydyn ni, gan stopio’n hunain rhag droi’n syth at atebion hawdd ac amlwg.

Y soffa o Billericay, gyda charthen oddi ar E-bay a chlustogau gan wneuthurwyr amrywiol ar wefan Esty

Cadair arall o Billericay, gyda charthen oddi ar Freecycle (Gwyrdd a gwyn) a charthen arall o drip y gŵr i Tanzania. Clustog oddi ar Etsy. Print Hundertwasser. A cadair fach bren gan Granpa Aberteifi.

Falle y dylen ni nawr ddechrau llenwi ein cartref â phlanhigion, ein pot plant tennants bach ein hunain, a gwneud ymdrech i ad-dalu’r ddyled…

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys, Gyda llaw. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s