Aethon ni ar wyliau i’r Almaen wythnos ddiwetha’, ac yn unol â’n hymdrechion i fod mor garbon isel â phosibl, fe deithion ni ar y trên.
Fel dwi ‘di nodi o’r blaen, dwi’n joio teithio ar y trên am ei bod hi’n ffordd fwy hamddenol o deithio. O gymharu â hedfan, mae’n cymryd fwy o amser wrth gwrs – ond dwi’n teimlo eich bod chi’n gwastraffu llai o amser ar y cyfan. Er enghraifft, dim ond hanner awr cyn i’r Eurostar adael sy’n rhaid i chi gyrraedd – tra bod fel arfer angen cyrraedd y maes awyr rhyw ddwy awr cyn hedfan. Yr unig wir drafferth, yn fy marn i, yw’r gost, ac mae modd gwrthbwyso hynny os allwch chi fwcio tocynnau mor gynnar â phosibl a cheisio osgoi teithio ar adegau poblogaidd, fel gwyliau’r Pasg…
Ond gan taw diben ein gwyliau ni oedd aros gyda theulu, roedd angen i ni gyd-fynd â’u gwyliau nhw. Felly, gan ein bod ni eisoes yn mynd y ffordd hir rownd, drefnon ni aros gyda ffrindiau yn Nancy yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc ar y ffordd, a manteisio i’r eithaf ar ein taith ar y trên. Roedd hynny i’w weld yn gwneud sens ar bapur, ond efallai i ni or-gymhlethu pethau!
Mae llwyth o wybodaeth am deithio ledled y byd ar y trên ar wefan The Man in Seat Sixty One.
Dyma beth wnaethon ni:
30.3.2012 Caerdydd i Nancy
- 7.55 Caerdydd Canolog > Llundain Paddington 10.07
- Trên ar yr Hammersmith and City Line i St. Pancras
- 11.31 Llundain, St. Pancras > Paris, Gare du Nord 14.47 (amser lleol)
- Cerdded 10 munud i Gare de l’est. (Prynu patisserie ac eistedd mewn parc wrth ymyl y gamlas am awren…)
- 16.13 Paris Est > Nancy Ville 17.43
- Treulio dwy noson gyda ffrindiau yn Nancy
1.4.2012 Nancy i Mannheim
Co ble mae pethau’n mynd bach yn gymhleth.
Ar y naill law, mae llinellau uniongyrchol rhwydweithiau TGV a Deutsche Bahn sy’n cysylltu dinasoedd mawr Ewrop yn eich galluogi chi i deithio o un lle i’r llall (er enghraifft, o Baris i Nancy) yn gyflym ac yn ddidrafferth – heb stopio. Gallwch chi hefyd deithio o Baris i Metz yn uniongyrchol, heb stopio. Ond er mwyn teithio o Nancy i Metz – mae angen dal trên rhanbarthol, sy’n stopio mewn pedwar neu bum lle arall ar hyd y ffordd. Felly er bod y canghennau allan o’r dinasoedd mawr, fel Paris, yn hynod o effeithlon, mae’r cysylltiadau rhwng y prif-wythiennau ychydig yn fwy rownd abowt.
Mae hynny’n iawn ar y cyfan – gan eich bod chi’n tueddu aros mewn un lle canolog, a theithio i lefydd cyfagos – ond yn ein hachos ni, ro’n ni am deithio o Nancy (ar un llinell) i Mannheim (ar linell arall) – a gan fod Mannheim yn yr Almaen, mae e tu allan i’r rhwydwaith rhanbarthol. Felly dyma beth oedd yn rhaid i ni ei wneud:
- 11.15 Nancy Ville > Strasbourg 12.39
- 13.54 Strasbourg > Mannheim 15.18
…sy dipyn yn llai impressive na theithio o Gaerdydd i Nancy mewn diwrnod…
Yn ffodus ddigon, roedd y daith nôl yn un mwy uniongyrchol:
6.4.2012 Mannheim i Gaerdyd
- 9.41 Mannheim > Paris Est 12.50
- Baguette yn y parc wrth y gamlas cyn cerdded deg munud i orsaf y gogledd…
- 14.43 Paris, Gare du Nord > Llundain, St. Pancras 16.00 (amser lleol)
- 17.45 Llundain, Paddington > Caerdydd Canolog 19.46
Roedd yr Hammersmith and City line ar gau y diwrnod hwnnw, felly gymrodd hi fwy o amser i gyrraedd Paddington. Roedd hefyd llai o drenau’n rhedeg yn ôl i Gaerdydd am ei bod hi’n ŵyl y banc – felly erbyn i ni gyrraedd Paddington, roedd rhaid aros awr am drên adref.
Diolch am rannu hwn. Mae’r Man yn Seat 61 yn ddefnyddiol iawn ac dwi wedi defnyddio fe sawl gwaith. Hefyd dwi’n argymell bahn.de i fwcio tocynnau. Dwi newydd defnyddio’r safle honno i archebu tocynnau o Stockholm i Gaerdydd.
Waw – ma hwnna’n swnio fel taith a hanner! Mwynha