Y diweddaraf o’r rhandir a’r ardd

Ymwelom ni’n sydyn â’r rhandir ddydd Sul er mwyn siecio pethau ar ôl wythnos o wyliau. Doedd dim rhyw lawer i’w wneud, dim ond:
Plannu hadau cêl, pys, betys a brocoli (gwyrdd nid porffor).
Plannu planhigion pannas a blodfresych (a dyfwyd o hadau yn yr ystafell sbâr).
Pigo llond bag o frocoli porffor.

Mae ambell i blanhigyn moron wedi dechrau dangos, ac mae’r rhiwbob bron iawn yn barod i’w bigo.

Heddiw ma’r gŵr wedi cael lifft gan ei dad i B&Q er mwyn mofyn bagiau compost i dyfu tomatos yn yr ardd. Daeth y planhigion ymlaen yn o lew tra ein bod ni bant (diolch i’r rheini yng nghyfraith am ofalu amdanyn nhw) a byddwn ni’n eu plannu nhw unwaith i’r glaw ‘ma glirio… O’n profiad ni, dyw tomatos ddim yn gweithio draw ar y rhandir – am ein bod ni methu tendio iddyn nhw fel y bo gofyn, ac mae’n debyg bod mwy o risg i domatos ddal blight ar randiroedd am bo cymaint o blanhigion eraill ar hyd y lle.

Mewn newydd arall, dwi hefyd ‘di plannu planhigion rhosmari, teim a saets mewn potiau yn yr ardd – ac wedi rhoi cynnig ar hadau coriander, cennin syfi, mintys a phersli. Dy’n ni’n defnyddio tipyn o berlysiau yma, felly mae’n gwneud synnwyr ceisio tyfu ein rhai ni’n hunain.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Y diweddaraf o’r rhandir a’r ardd

  1. Dywedodd cathasturias :

    Diddorol clywed am y perlysiau. Smo fi wedi cael dim hwyl ar y persli eleni, yr hadau’n gwrthod egino. Byddaf yn hau coriander bob mis drwy’r tymor achos mae’n mynnu blodeuo a chynhyrchu hadau – iawn, rwy’n defnyddio rheiny ond mae eisiau’r dail arna’i hefyd!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s