Ar y gweill

Patrwm arall gan Kate Davies… (eto fyth).

Dwi’n joio’r patrwm hwn. Pâr o fenig fyddan nhw yn y pen draw – ac mae gwau eitemau bach wastad yn fwy o hwyl gan eich bod chi’n cael gweld ffrwyth eich ymdrechion yn gloiach. Dwi hefyd yn mwynhau’r un ‘ma am fy mod i’n cael dysgu techneg newydd, sef magic loop. Ystyr hynny yw defnyddio un nodwydd siâp cylch mawr i wau eitemau bach – yn hytrach na’u gwau nhw ar weill deupen (lle gall rhywun fynd i drafferth wrth newid o un weillen i’r nesaf – a ma hynny ‘di digwydd i fi sawl tro…) Dwi hefyd yn joio defnyddio math newydd o wlân, sef gwlân Shetland Jamieson and Smith – y melyn a’r gwyrdd tywyll yn y llun. Wy’n dwli ar y lliwiau – mae cyfoeth o donau gwahanol yn yr un lliw. Mae’r prosiect hwn yn sicr lot fwy satisfying na’r un diwetha’ – lle ddefnyddies i liwiau lot rhy debyg – hyd yma.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys, Gyda llaw. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Ar y gweill

  1. Hysbysiad: Menig Crwbanod a Sgwarnogod | Hadau

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s