Ein pererindod wythnosol i’r rhandir

Roedd hi’n llwydaidd wrth i ni gerdded draw i’r rhandir heddiw ac yn pigo bwrw erbyn i ni gyrraedd, felly wnaethon ni ddim rhyw lawer! Llwyddais i blannu rhagor o hadau ysgewyll a chennin, ac aeth y gŵr ati i symud ein pentwr o dŵls.

Ro’n ni’n arfer eu cadw nhw yn y gornel y tu ôl i’r brocoli porffor, ond dy ni wedi darganfod rhywbeth hollol annisgwyl yn y brocoli erbyn hyn – sef nyth teulu bach o adar du. Ddes i o hyd i’r nyth wythnos ddiwetha’ tra’n pigo brocoli, a do’n i ddim yn hollol siŵr a oedd y pentwr bach o blu y tu mewn iddo’n fyw ai peidio – ond erbyn hyn, mae’r cyw bach wedi tyfu digon i eistedd lan yn deidi a’n llygadu ni pan fyddwn ni’n rhoi pip drwy’r rhwyd las. Felly nawr ein bod ni’n gwybod bod y cyw bach yn iawn, dy ni am adael y gornel honno i fod tan y bydd e wedi gadael y nyth. A dyna’r rheswm dros symud y tŵls… Roedd hi’n pistyllu bwrw erbyn i’r gŵr orffen symud popeth felly fe ddaethon ni o ‘na’n o gloi.

Lle annisgwyl i adeiladu nyth

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Wilias :

    Pam bod y rhwyd ar y brocoli? Ydych chi’n cael trafferth efo colomenod yna, yntau paratoi cyn y gloynod byw gwyn wyt ti? Dwi’n lwcus fod y brocoli a’r kale aballu yn cael llonydd yn fan hyn, hyd yma…

  2. Dywedodd tatws :

    Ie – y colomenod yw’r rheswm am y rhwyd. Fe weithiodd yn dda – tan i’r adar du ‘ma ddod i nythu.

  3. Hysbysiad: Hedfan y nyth | Hadau

  4. Hysbysiad: Hydref ar y rhandir | Hadau

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s