Y diweddaraf o’r rhandir

Mae’n addo tywydd ofnadwy ‘fory, felly fe aethon ni draw i’r rhandir bore ‘ma. Roedd hi’n ddigon diflas bryd hynny, ond o leiaf cawson ni gyfle i blannu’r ffa a thwtio’r tatws. Mae’r dail tatws yn dechrau dod i’r amlwg, felly ar gyfarwyddyd y gŵr, es i ati i dynnu fwy o bridd at y rhychau.Y syniad yw annog coesynnau’r planhigion o dan y ddaear i dyfu’n hirach – sydd i fod i wella’r cnwd.

Fe blannon ni egin blanhigion ffa cyn y Nadolig, ond roedd y tywydd oer ddiwedd mis Ionawr braidd yn ormod iddyn nhw. Roedden ni wastad wedi bwriadu plannu rhagor o hadau yn y flwyddyn newydd, ond efallai ddim cymaint. Aeth 28 o blanhigion ffa allan heddiw (doedd gennyn ni ddim 28 o foteli plastig i’w gwarchod nhw i gyd.)

Dy’n ni’n cadw ein tŵls ni o dan ddarn o darpolin  – ac mae’n debyg bod y glaw wythnos ddiwetha’ baridd yn ormod i hwnnw gan bod ein tŵls ni i gyd yn wlyb heddiw. Wrth geisio tacluso’r tarpolin, ddaethon ni o hyd i’r bwystfil hwn.

‘Dy’n ni’n credu taw Gwlithen Llewpard yw e. Mae e (a’i ffrind) bellach wedi cael eu hadleoli i’r danadl poethion wrth ymyl y patsh.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s