Fodca Riwbob

Cynhwysion: litr o fodca, 2 goesyn o riwbob, croen ½ lemwn, 3 chlof, 1 brigyn o sinamon, 3 llwy de o siwgr

Cam 1. Malu’r riwbob gyda phestl a mortar a’i roi mewn jar gyda’r siwgr, a’i adael am ddeuddydd.

Cam 2. Ychwanegu’r clofs y sinamon, y croen lemwn a’r fodca, a gadael y cwbwl mewn lle oer a thywyll am dair wythnos – gan gofio siglo’r jar bob diwrnod.

Cam 3. Hidlo’r fodca, ei roi mewn potel lân a’i adael am dri mis cyn yfed.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Llysiau, Ryseits. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

  1. Dywedodd Wilias :

    Waw; swnio’n werth trio (a’r hufen ia yn y post nesa’ hefyd). Dwi’n hoff o ddefnyddio llus gwyllt i wneud rhywbeth tebyg efo fodca, neu gin. Gwell o lawer nag eirin tagu.

  2. Hysbysiad: Riwbobmania | Blog Carl Morris | Carl Morris

  3. Dywedodd Huw :

    Swnio fel syniad gwyllt, ond be am gynhesu’r cynhwysion yn araf deg am tua tair awr i gyd gyda’i gilydd, i neud yn siwr bod popeth yn hydoddi?

    Bydd angen cadw’r peth efo caead, neu neith yr alcohol ferwi! Ond ddim rhy gynnes fel bod y cynhwysydd yn torri o dan wasgedd y gwres.

  4. Dywedodd tatws :

    Wilias – ie, wy ffansi roi cynnig ar ragor o ryseitiau alcohol ffrwythau. Disgwyl tipyn o fafon ‘leni, so falle wnai ddechrau whilo am syniadau.

    Huw – rho wybod shwd eith hynny!

  5. Hysbysiad: Oni heuir ni fedir: riwbob | Hadau

  6. Hysbysiad: Caeredin | Hadau

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s