Wythnos arall a thrip arall i’r rhandir

Rhagor o blannu oedd ein hanes ni dros y penwythnos. Mae gweddill yr egin blanhigion pannas wedi mynd allan – felly mae deuddeg o bannas yn y tir erbyn hun. Wnaethon ni hefyd blannu’r egin  bys cyntaf – saith o reini, ond fe fyddwn ni’n plannu rhagor o hadau yn y man.

Mae pump o blanhigion sbigoglys, a phedwar planhigyn letys wedi mynd allan – eto, byddwn ni’n plannu rhagor o hadau er mwyn sicrhau bod y rhain yn parhau i ddod drwy’r haf.

Mae’r gŵr wedi symud y planhigion brocoli porffor ac wedi plannu corbwmpenni a phwmpenni.

Er gwaetha’r gwlypni, mae pethau’n dechrau cydio draw yno erbyn hyn. Mae’r planhigion mafon a’r cwrens duon yn dechrau dod ymlaen, ac mae gennym ni gryn gnwd o riwbob. Pethau’n edrych yn o dda am y tro…

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffrwythau, Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s