Druan â’r hen arlleg…

Mae’n edrych fel ‘se’r garlleg wedi cael ychydig yn ormod o law eleni, ac wrth i ni dynnu’r 24 o blanhigion o’r tir heddiw, dim ond deg ohonyn nhw oedd yn ddigon da i’w cadw. Roedd y gweddill fel ‘se nhw wedi prydu  – o leia, dwi’n cymryd mai’r holl law sy’ ar fai, ond os oes unrhyw un yn gwybod am rywbeth arall y dylen ni fod yn gwylio allan amdano, rhowch wybod plîs.

Ta beth, mae deg planhigyn garlleg dal yn rhybeth allwn ni fod yn falch ohono. ‘Dy ni wedi eu rhoi nhw yn y tŷ gywdr bach i sychu.

Mae’r pys braidd yn druenus hefyd arna i ofn – am fod yr adar wedi bod yn ymosod arnyn nhw. Dwi’n credu y byddan nhw o hyd yn iawn – ‘dy ni ‘di rhoi darnau o blastig a photeli ar y cansenni i geisio rhwystro’r adar, ond mae’n anodd pan na allwch chi siecio ar y planhigion bob dydd. Jest rhag ofn, ‘dy ni ‘di plannu llond dwrn o hadau pys newydd heddiw – felly os bydd unrhyw blanhigion yn cael eu difetha’n llwyr, gallwn ni rhoi ‘plan B’ ar waith.

Mae’r pys dal yn oce ar hyn o bryd, ond ‘dy ni’n gwybod o brofioad i beidio â thrysto’r adar ar y rhandir…

Dwi hefyd ‘di plannu cwpwl o egin-blanhigion sbigoglys a letys oedd gyda ni’n sbâr – does dim wir eu hangen nhw arno’ ni, ond dwi’n credu eu bod nhw’n haeddu cyfle!

Letys a sbigoglys sefydliedig a’r egin-blanhigion tila newydd

Gwaneth y gŵr chwynnu’r ffa. Maen nhw’n edrych yn dda erbyn hyn – a ma tipyn o fuchod coch cwta i weld wedi ymgartrefu arnyn nhw, sy’n argoeli’n dda gan ein bod ni’n aml yn cael trafferth â phryfed du ar y ffa a gobeithio bydd y buchod coch cwta’n bwyta rheini.

Wnaethon ni ddim dod â rhai getre heddiw, ond ‘dy ni hefydwedi dechrau pigo’r tato newydd. Maen nhw dal yn eitha bach ar hyn o bryd – ond yn edrych ac yn blasu’n dda, ac wedi osgoi’r ‘blight’ hyd yma diolch byth.

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s