Diwrnod ar y rhandir mewn lluniau…

Buodd y gŵr yn gweithio ar y rhandir drwy’r bore ddydd Sadwrn. Ymunais i amser cinio, a dyma’r peth cyntaf y gwelais i. Tair malwoden fras.

Ond roedd ôl gwaith caled y gŵr yn amlwg hefyd. Mae’r cyfardwf (oedd wedi mynd yn wyllt braidd) wedi’i dorri nôl a’r tato i gyd wedi’u pigo. Byddwn ni’n gadael dail y cyfardwf i bydru ar y tir ble oedd y tato, fel mulch. Mae’r tato bellach wedi’u storio yn y cwtsh dan stâr gartref – gallwn ni eu gadael nhw mewn man tywyll ac oer fel hyn a’u defnyddio nhw yn ôl yr angen hyd at y Nadolig.

Cofio ni’n plannu hadau blodau i ddenu pili-palaod? Dyma’r blodau o’r diwedd.

Mae’r cawell yn dal i sefyll – hwre!

Ar ôl cinio, aeth y gŵr ati i dacluso’r gwely betys.

Drws nesa i’r betys, mae’r pannas yn barod i’w pigo dros yr wythnosau nesaf.

Ces i’r gwaith o dynnu’r cawell tila oddi ar y coed cwrens duon. Mae ambell i gyrensen ar ôl.

Er gwaetha’r gwlithod, mae ambell i blanhigyn melyn mair wedi goroesi.

Dyw’r moron heb wneud cystal – dim ond un planhigyn sydd i’w weld erbyn hyn. Mae moron yn hoffi tir sych – a hyd yn oed heb yr holl law yma, dwy ddim yn siŵr pa mor addas yw’n pridd ni ar gyfer tyfu moron. Dy’n ni heb gael llawer o lwyddiant  gyda nhw erioed.

Heb law am hynny, gwnaethon ni hefyd chwynnu gwelyau’r letys a’r sbigoglys, y cenin a’r ffa, a phlannodd y gŵr rhagor o blanhigion cenin. Mae’r mafon yn dechrau dod nawr hefyd, felly ar ôl ychydig o chwilio, llwyddais i bigo llond llaw o’r rheini.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffrwythau, Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s