Ynni da

Dim ond nodyn bach i argymell cwmni ynni Good Energy. Dyma’r unig gwmni ynni ym Mhrydain sydd ond yn defnyddio ynni adnewyddadwy i gynhyrchu trydan. Dy’n ni wedi bod gyda’r cwmni ers tua blwyddyn – dy’n ni’n sicr ddim yn talu mwy nag oedden ni gyda’r cwmni mawr blaenorol a ma’r gwasanaeth cwsmeriaid yn dda iawn. Mae modd cymharu prisiau Good Energy â phrisiau’r cwmnïau mawr ar wefan y cwmni. Gyda’r Guardian yn ein hatgoffa ni heddiw bod yr amser yn mynd yn brin i weithredu ar newid hinsawdd, byddai newid i gyflenwr fel Good Energy yn un cam bach syml y gallai lot o bobl ei gymryd i leihau eu hôl troed carbon. Er bod angen gwneud lot fwy na hynny mewn gwirionedd.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Amgylchedd. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Ynni da

  1. Dywedodd Ann Jones :

    Syniad da, dwi’n meddwl. Ti’n iawn, mae’n rhaid i ni gyd gwneud be fedrwn i. Dan ni’n hapus gyda’r paneli solar sydd ar y ty ers mis Mawrth. Wnaethon ni newid cwmni ar y pryd i’r co-op, doeddwn ni ddim yn gwybod am Good Energy.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s