Artes Mundi

‘Dy’n ni wedi gwneud cwpwl o bethau diddorol yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn ddiweddar. Yn gyntaf gweithdy darlunio ‘Come Draw With Me’, a’r ail oedd ymweld ag arddangosfa Artes Mundi.

Y darn a gafodd yr effaith fwyaf arna i oedd gwaith Apolonija Sustersic am ddatblygu Bae Caerdydd – a’r cyfleoedd a gollwyd drwy sathru ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (y warchodfa adar) i adeiladu’r morglawdd, ac wedyn cael gwared ar hen amgueddfa’r glannau, a chodi Cei’r Forforwyn. Byrdwn y ffilm oedd bod angen fwy na bwytai chain ac ambell i siop i ddenu pobl i dreulio eu hamser a gwario eu harian yng Nghaerdydd – a bod nodweddion unigryw iawn a oedd, efallai, yn gosod Caerdydd ar wahân, wedi eu colli yn sgil brwdfrydedd rhai i wneud y bae yn fwy masnachol.

Mae diffyg atyniadau diwylliannol Caerdydd yn rhywbeth ‘dw i wedi teimlo’n rhwystredig amdano ers cryn amser – ac felly nid yw’n syndod bod gwaith Apolonija Sustersic wedi canu cloch. Peidiwch â chamddeall – mae’r hyn sy yng Nghaerdydd eisoes yn wych, h.y. yr Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan, Amgueddfa Stori Caerdydd a Chanolfan y Mileniwm ymhlith eraill… Ond os yw Caerdydd am gystadlu fel prifddinas Ewropeaidd falch, mae angen cymaint yn fwy. Un o’r pethau sy’n mynd o dan fy nghroen i yw cymaint sydd wedi cael ei wthio dan do un adeilad yn yr Amgueddfa Genedlaethol; hanes naturiol, hanes Cymru, hanes celf, oriel celf gyfoes a modern a blas ar hanes celf Cymru. Ddywedes i yn y post diwethaf fod yr Amgueddfa gyfatebol yng Nghaeredin wedi fy ysbrydoli – a’r prif reswm am hynny oedd y ffaith ei bod hi’n anferth. Roedd gwahanol elfennau o hanes y byd yn cael sylw yn ogystal â gwyddoniaeth a thechnoleg, ond y peth gorau oedd y ffaith bod hanes yr Alban fel cenedl yn cael ei ddadansoddi’n fanwl dros bum llawr. Roedd gormod i’w weld – ond dyna sy’n denu pobl i ddychwelyd i ddinasoedd.

Pe bawn i’n cael fy ffordd byddai cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru’n cael ei rannu rhwng tri adeilad o leiaf: amgueddfa hanesyddol a byd natur, ac yna dwy oriel, un ‘hanesyddol’ yn cynnwys casgliad anhygoel y chwiorydd Davies, ac un oriel gyfoes, fwy radical. Tra bo ni ati, byddwn i’n codi cerflun o’r chwiorydd Davies hefyd, dwy fenyw sy’ wedi gadael gwaddol tra arbennig i Gymru a Chaerdydd, er mwyn ychwanegu dwy fenyw go iawn at gerfluniau Caerdydd.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Artes Mundi

  1. Dywedodd Rhys :

    Cytuno 100%, er d wi heb fod i weld Stori Caerdydd eto (nac yn meddwl mod i’n methu rhyw lawr os yw Dic Mortimer yn iawn – ac mae o fel arfer).

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s