Nosh Posh

Efallai na fydd hi’n syndod bod gŵr a gwraig sy’n mynd i’r drafferth i dyfu eu bwyd eu hunain yn bobl sy’n hoff iawn iawn o fwyd. I’r perwyl hwnnw, ddefnyddion ni ein hantur ddiweddar i Gaeredin a Dulyn fel esgus i samplu cwpwl o fwytai posh.

Yng Nghaeredin… aethon ni i Castle Terrace, oedd yn hollol hyfryd. Ces i risotto môr-lawes a sbelt i ddechrau, plated anhygoel o borc fel prif gwrs gyda’r cig wedi’i goginio mewn tua pum gwahanol ffordd a creme brulee i bwdin – oedd yn newid awn, ond tipyn yn llai impressive na’r prydau eraill. Cafodd y gŵr mecryll i ddechrau gyda phiwrî afal a chroutons, wedyn pysgodyn cegddu gydag olewydd du a salsiffi, a tharten afal a sinsir i orffen. Nid adolygwyr bwyd mohonom (yn amlwg) ond roedd popeth yn arbennig o dda. Yr un peth negyddol y bydden i’n ei nodi am y bwyty oedd ei fod e braidd yn ffurfiol o ran awyrgylch. Os oeddech chi am godi i fynd i’r tŷ bach yn ystod y pryd – roedd gweinydd yno’n syth i wthio’ch cadair chi nôl dan y bwrdd a thacluso’r napkin rhag ofn i’r lle edrych yn flêr – sy’n iawn, ond bach yn ormod yn fy marn i!

Yn Nulyn… aethon ni i Chapter One. Ces i fetys i ddechrau, ond arnai ofn na allai cweit gofio beth yn union oedd y fetysen yn ei wneud, ond roedd e’n neis iawn. Y prif gwrs oedd pysgodyn cegddu – oedd yn hollol hyfryd, a ches i bwdin siocled godidog. Cafodd y gŵr selsig Hwyaden i ddechrau, bochau a bola porc fel prif gwrs a jeli ffigys i bwdin. Roedd y bwyty hwn dipyn yn fwy ymlaciedig, ac yn lle hyfryd i hamddena dros ginio.

Fel trît dros y Dolig, byddwn ni’n dychwelyd i’r Hardwick ger y Fenni – lle aethon ni am y tro cyntaf y llynedd. Edrych ymlaen yn arw.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Dim byd o bwys. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s