Y gaeaf ar y rhandir

Nodyn i brofi bod y rhandir bach yn dal i fynd (dwi di bod yn sôn am bob dim heb law am arddio yn ddiweddar…) Fel y byddech chi’n disgwyl, mae pethau’n eitha llwm ar y patsh dros fisoedd y gaeaf, a dyw’r cawell y gwnaethon ni ei godi i amddiffyn y brocoli porffor rhag yr adar heb oroesi gwaetha’r modd.

Y rhandir llwm

Y rhandir llwm

Y cawell wedi cwympo

Y cawell wedi cwympo

Buodd datblygiadau o ran bywyd gwyllt. Mae’r gŵr wedi bod yn mynd nôl a mlaen i dwtio a phigo llysiau mwy na fi dros y Nadolig, a ganol fis Rhagfyr, fe welodd lwynog, yng ngolau dydd, yn syllu ato o’r chwyn wrth ymyl y patsh. Rhedodd y llwynog i ffwrdd yn y pen draw, ond pan aethon ni  draw i’r rhandir penwythnos diwetha’ roedd olion rhyw famal druan ar bridd y gwely tatws felly mae’n amlwg bod y creadur yn dal i lechu ar ffiniau’r rhandiroedd yn rhywle.

Ry’n ni’n dal i fwynhau ambell i gnwd. Mae’r cenin wedi bod yn ein cadw ni i fynd drwy’r gaeaf ac fe gawson ni dipyn o fetys hefyd – felly es i ati wneud enllyn betys.

Cennin

Cennin

Enllyn betys

Enllyn betys

Ro’n i braidd yn siomedig nad oedd fawr ddim riwbob i’w weld penwythnos diwetha ar ôl i Wilias godi fy ngobeithion. Ond ar nodyn cadarnhaol i gloi, mae’r brocoli porffor yn dechrau dod. Newyddion da yn wir.

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

 

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Y gaeaf ar y rhandir

  1. Dywedodd baragouiner :

    Methu aros am y brocoli! Does dim adar yn gwneud nyth eleni, diolch byth.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s