Och a Gwau

Dwi di llwyddo i strywa’r unig siwmper i mi ei gwau (a’i gorffen) i mi fy hun. Dyma wers i unrhyw un arall beidio â rhoi siwmperi gwlân yn y peiriant golchi oni bai eich bod chi’n hollol sicr na chân nhw eu poeri allan wedi chwalu!

Y siwmper cyn i fi ei strywa hi

Y siwmper cyn i fi ei strywa hi

..ar ôl iddi ddod mas o'r peiriant golchi, cwpwl o feintiau'n llai ac wedi ffeltio

..ar ôl iddi ddod mas o’r peiriant golchi, cwpwl o feintiau’n llai ac wedi ffeltio

Roedd hi’n siwmper eitha syml , felly fe alla i wau un arall rhywben (daeth y patrwm o wefan Knitty – adawes i’r bobbles mas). Ond dyma oedd fy mhrosiect gwau mawr cyntaf, a gwnaeth e lwyddo (yn annhebyg i’r gardigan enfawr es i ‘mlaen i’w gwau) felly mae’n drueni mod i wedi bod mor dwp. Dyna ni. O leia’ dwi ‘di dysgu gwers.

Wnes i wau hon tua tair neu bedair blynedd yn ôl, a mynd â hi gyda mi ar y gweill ar daith i ddwyrain Ewrop.  Dyma hi ar y gweill, ar y trên, rhywle ar y ffordd i Ljubljana.Gwau

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Gyda llaw. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s