Gwyliau yn y gorllewin

Nol ym mis Chwefror aethon ni ar wyliau bach i Tŷ Glas, un o fythnnod Under the Thatch/ Dan y Bared ger Nanhyfer yn Sir Benfro. Heblaw crwydro llwybr yr arfordir, gawson ni gyfle i ymweld á llond llaw o fusnesau bwyd diddorol gan gynnwys siop The Carrot Cruncher yng Nghastell Newydd Emlyn, bwyty The 25 Mile yn Aberteifi ac ar y ffordd nol, Wright’s Independent Food Emporium yn Nantgaredig. Mae’r gŵr wedi postio blog am y tri lle hyn draw ar safle Siop y Bobl. Wnaethon ni hefyd gael hwyl yn siopa hen greiriau mewn siopau gwych yng Nghastell Newydd Emlyn, Aberteifi a Threfdraeth – cyfle lot gwell o ffeindio bargen na gewch chi yng Nghaerdydd.

Ty Glas

Ty Glas

Pwll y Wrach (a morlo os edrychwch chi'n agos)

Pwll y Wrach (a morlo os edrychwch chi’n agos)

Yr olygfa o'r bwthyn

Yr olygfa o’r bwthyn

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Dim byd o bwys. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Gwyliau yn y gorllewin

  1. Dywedodd Rhys Wynne :

    Wedi clywed gan fwy nag un person (Carl yn un) bod boi sy’n berchen/rhedeg 25 Mile reit wrth-Gymraeg ac yn gwbl agored am y peth.

    • Dywedodd hadau :

      Wel, paid a mynd ‘na te.
      Nath y pwnc ddim codi tra ‘mod i yno. Gwir, doedd dim Cymraeg ar y fwydlen. Cwbwl alla i weud yw bod y bwyd yn neis.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s