Beth sy’n tyfu – Mehefin 2013

Aethon ni draw i’r patsh pnawn ddoe a dyma’r diweddaraf…

image

Penderfynodd y gŵr roi cynnig ar ruddygl am y tro cyntaf ‘leni a ma nhw nawr yn barod i’w pigo. Yn ôl y gŵr, ro’n nhw’n eitha’ diffwdan i dyfu, ac yn barod i bigo’n weddol fuan. Cawson ni tzatziki neis iawn gyda swper neithiwr (y gŵr oedd yn gyfrifol am hwnna hefyd – felly diolch yn fawr iddo fe), gan ddefnyddio rhuddygl yn hytrach na chiwcymbr gyda iogwrt.

image

Mae betys a moron ar y ffordd – ddyle’r betys fod yn barod tua Gorffennaf, a’r moron ychydig bach ar ôl hynny.

image

Ma’r ffa yn dechrau blodeuo.

image

Digon o dato eto ‘leni.

image

Garlleg a winwns yn dod.
Mae ‘na hefyd letys, sbigoglys, india corn, pys, mafon a chwrens duon ar y ffordd, ac wrth gwrs, riwbob.

image

Fe bigon ni gryn dipyn ddoe – a ma dal llwyth ar ôl. Dwi’n bwriadu paratoi crochan o jam heddiw – ddylen ni fod yn iawn am jam riwbob tan Dolig.

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Ffrwythau, Garddio, Llysiau, Ryseits. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s