Awn am dro i…

I fanteisio ar y tywydd braf, aethon ni ar antur arall heb gar dros y penwythnos. Y tro ‘ma, ddalion ni drên i Ben-y-bont ar Ogwr, wedyn cerdded o fan’na i Gastell Aberogwr. Mae ‘na fapiau defnyddiol ar gael ar wefan Bridgend Bites, ac fe ddilynon ni’r llwybr ar hyd afon Ogwr i Ferthyr Mawr. Roedd hynny’n golygu y gallen ni alw am ginio yn Nhafarn The Pelican in her Piety, dros y ffordd i safle tipis Aberogwr lle fues i ar barti ieir rhai blynyddoedd yn ôl erbyn hyn – ond roedd criw arall o ieir yno ddoe, yn gwneud yn union yr un peth â ni.

Fe gymeron ni’r llwybr ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon i lawr i Aberogwr, gan groesi’r cerrig rhyd a phasio drwy bentref Merthyr Mawr ar y ffordd yn ôl i Ben-y-bont, ar ochr orllewinol yr afon. Pe bawn i’n mynd y ffordd hon eto, bydden i’n croesi nôl i’r ochr ddwyreiniol ar ôl dod i bont New Inn – nid bod unrhyw beth hynod o ddiddorol y naill ochr na’r llall i’r afon o’r pwynt yma ymlaen, ond roedd y llwybr ar yr ochr orllewinol bron i gyd drwy’r goedwig, lle roedd llawer o glêr yn ein hambygio ni ddoe!

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Dim byd o bwys. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s