Cwrens Duon

Draw ar y rhandir ddydd Sul diwetha’, roedd hi’n amser dadorchuddio’r goeden cwrens duon, sydd wedi bod dan rwyd dros y misoedd diwetha’ i geisio cadw’r adar draw.Y goeden gwrens wedi'i dadorchuddio

Cnwd o gwrensRwy’n ffeindio blas cwrens ar eu pen eu hunain braidd yn chwerw, felly gan fod tipyn o gnwd es ati i baratoi jam cwrens duon.

I ddechrau, roedd angen gwneud yn siŵr bod dim brigau/coesynnau ar ôl ar ben ucha’r ffrwyth – ond mae’n iawn i adael gweddillion y blodyn ar y pen gwaelod. Yna, rhoi’r ffrwyth mewn sosban gyda dŵr a’i gynhesu tan ei fod yn ffrwtian. Ma’r ryseit yn defnyddio 1kg o ffrwyth a 600ml o ddŵr – ond roedd yn rhaid i fi leihau’r mesurau.

Y cwrens yn ffrwtian yn y dŵrMae angen gadael i’r ffrwyth feddalu – ond peidio â’u gadael i fynd i slwsh. Mae’r rysáit yn dweud i’w gadael i ffrwtian am 15-20 munud, ond gan bo llai o ffrwyth gen i, fe gymerodd hyn lai o amser.

Y cam nesaf yw ychwanegu’r siwgr – 1.5kg o siwgr gronynog aur. Mae angen troi’r gymysgedd tan fod y siwgr wedi toddi. Yna dod â’r gymysgedd i ferwi’n gyflym – â’i ferwi am 5 munud.

Berwi'r cwrens a'r siwgrAr ôl berwi, mae angen tynnu’r pan o’r gwres a throi’r gymysgedd i’w oeri rhywfaint. Gwnewch yn siŵr fod y jam yn barod i setio drwy roi llwyed bach ar soser oer, ei adael am funud fach, wedyn gweld a yw wyneb y jam yn crychu pan fyddwch chi’n ei gyffwrdd. (Chwiliwch am ‘setting point’ ar y we am fwy o wybodaeth am y cam hwn).

Nesaf, rhoi’r jam mewn jariau glan. Dwi’n diheintio jariau drwy eu rhoi nhw a’u cloriau mewn powlen, gorchuddio’r cwbl â dŵr berw a’u gadael am o leiaf 15 munud. Wedyn tynnu’r jariau o’r dŵr yn ofalus (dwi’n gorfod defnyddio llwy bwdin i bysgota’r jariau o’r dŵr fel arfer) a’u rhoi nhw ben i waered ar liain glan. Yna bydda i’n troi’r jariau fesul un i’w lenwi â jam, ac yn cau’r caead.

Et voila – jam cwrens duon…Jam Cwrens Duon

 

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, Ffrwythau, Ryseits. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s