Siytni Tymhorol

‘Dy’n ni’n amlwg heb fod yn cadw llygad ar y corbwmpenni’n ddigon da, gan fod un ohonyn nhw wedi troi mewn i’r bwystfil hwn erbyn i mi fynd draw i’w bigo fore dydd Sadwrn.

I roi hynna yn ei gyd-destun – dyma’r corbwmpen dan sylw drws nesa i afal goginio:

Ond mae hynny’n iawn, achos mae mwtanau enfawr o lysiau yn esgus da i gwcan siytni. Ddefnyddies i lyfr ffyddlon Pam Corbin i baratoi siytni tymhorol.

Cynhwysion: corbwmpen, tomatos gwyrdd a choch, afalau, winwns, syltanas, siwgr, finegr, naddion tsili a bag sbeis gyda sinsir, clofs, halen, pupur a hadau coriander.

Ofynnes i’n garedig i’r gŵr a chael caniatad i bigo’r tomatos gwyrdd bach olaf i gyd, felly mae’r batch hwn o siytni’n cynnwys ein corbwmpen a’n tomatos ni.

Ar ôl taflu’r cwbl i’r grochan, gadawes i iddo fe ffrwtian.

Ar ôl ryw ddwy awr a hanner, odd e’n edrych fel hyn…

Ac ar ôl ryw bump awr, wele siytni…

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Bwyd, lled-hunangynhalieth, Llysiau, Ryseits. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Siytni Tymhorol

  1. Dywedodd cathasturias :

    Ti wastod yn gadael tsytni i goginio cyhyd? Sa’i erioed wedi gadael e mwy na ryw dri chawrter awr – rhaid imi drial e fel hyn, cael gweld beth fydd y gwahaniaeth.

    • Dywedodd hadau :

      Mae’n dibynnu faint sy yn y grochan! Wnes i ddyblu’r ryseit tro ‘ma – a odd hwnnw’n dweud i ffrwtian am ryw dair awr neu falle mwy (dyna eiriau’r ryseit – nid fi sy’n bod yn amwys am unwaith)! Ma’r 5 awr uchod yn cynnwys rhyw 3/4 awr o ddod â’r cwbwl i ferwi ar y dechrau hefyd.

  2. Dywedodd Hel :

    cwl! dwi am drio tyfu corbempenni ar to y flat dwi am fyw ynddo yng ngaerdydd bl yma..! ma hwna’n anne summers o gorpwmpen haha! Siytni na edrych yn dda!

Gadael sylw