Archifau Categori: Dim byd o bwys

Awn am dro i…

I fanteisio ar y tywydd braf, aethon ni ar antur arall heb gar dros y penwythnos. Y tro ‘ma, ddalion ni drên i Ben-y-bont ar Ogwr, wedyn cerdded o fan’na i Gastell Aberogwr. Mae ‘na fapiau defnyddiol ar gael ar … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys | Rhowch sylw

Druan â’r llyffant bach

Dyw hi ddim yn hawdd ffeindio cysgod ar y rhandir yn y tywydd ‘ma. Roedd y llyffant bach yn cuddio yng nganol ein tŵls ni rhai wythnosau yn ôl.

Cyhoeddwyd yn Amgylchedd, Dim byd o bwys, Garddio | Rhowch sylw

Gwaith Cartref

Dwy heb sôn ryw lawer am y rhandir yn ddiweddar. Na phoener, dy’n heb adael i’r hen le fynd yn wyllt. A bod yn onest, ar ôl gweithio draw ‘na am ryw bedair blynedd, mae’r rhandir i’w weld yn dod … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys, Garddio, Gyda llaw | Rhowch sylw

Sylvia Sleigh

Rhyfedd o fyd. Do’n i erioed wedi clywed am Sylvia Sleigh tan i fi ddarllen rhyw bwt amdani mewn cylchgrawn am atyniadau diwylliannol yn Bordeaux tra ein bod ni yno’n ddiweddar. Artist ffeministaidd, o ogledd Cymru’n wreiddiol, a wnaeth enw … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys | 1 Sylw

Dianc (eto) ar y trên (eto)

Wn i ddim a yw’r blog ‘ma’n gwneud iddo fe swnio weithiau fel se fi a’r gŵr yn jolihoitan byth a hefyd. Ers cael gwared ar y car, dwi’n tueddu nodi unrhyw drip y byddwn ni’n mynd arno i gael … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys | Rhowch sylw

Rhagor o anrhegion gwlanog

Bues i’n gwau anrheg ychydig yn wahanol yn ddiweddar – het â barf datodadwy. Ges i’r patrwm o wefan Craftsy os oes rhywun arall ffansi go… Tipyn o hwyl i’w wau! Mae’r gwaith terfynol yn atgoffa fi o luniau Pete … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys, Gyda llaw | Rhowch sylw

Gwyliau yn y gorllewin

Nol ym mis Chwefror aethon ni ar wyliau bach i Tŷ Glas, un o fythnnod Under the Thatch/ Dan y Bared ger Nanhyfer yn Sir Benfro. Heblaw crwydro llwybr yr arfordir, gawson ni gyfle i ymweld á llond llaw o … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Bwyd, Dim byd o bwys | 2 Sylw

Anrheg wlanog

Gan fod fy ffrind Cai, sy’n hoff o redeg, yn dathlu pen-blwydd yn ddiweddar, es i ati i wau anrheg iddo fe… Dau fand garddwrn pwrpasol a band mwy o faint i gadw ei glustiau’n dwym, sy’n dweud ‘Grawnffryth’ am … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys, Gyda llaw | Rhowch sylw

Mynd am Dro ar Lwybr Elai

Ar ôl llwyddiant dydd Calan benderfynes i a’r gŵr fynd am dro ‘go iawn’ cwpwl o benwythnosau yn ôl. Ond yn hytrach na dianc o’r ddinas i’r mynyddoedd neu’r môr, y tro hwn rhoddon ni gynnig ar un o lwybrau … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Amgylchedd, Dim byd o bwys | 1 Sylw

Dydd Calan

Ddydd Calan, fe benderfynon ni fynd am dro. Ar ôl cael llond bol ar ganol dinas Caerdydd dros y Nadolig, aethon ni dipyn ymhellach – ar y trên i Lanilltud Fawr – tro ‘ma. O’r orsaf, aethon ni i’r traeth, … Parhau i ddarllen

Cyhoeddwyd yn Dim byd o bwys, lled-hunangynhalieth | 2 Sylw