Riwbob, riwbob a mwy o riwbob

Mae riwbob yn wych. Fe gawson ni blanhigyn gan rieni’r gŵr rhyw dair blynedd yn ôl, ac ers hynny mae cnwd o lew wedi dod bob blwyddyn – heb i ni orfod codi bys! Dy’n ni’n rhoi pentwr o wrtaith ar y planhigyn bob gaeaf, ond dyna ni â dweud y gwir – ac erbyn mis Mai, dyma sy’n ein croesawu ni.

Pigais i 3kg o riwbob dros y penwythnos, felly gan ei bod hi’n Ŵyl y Banc es i ati ddydd Llun i baratoi danteithion. Ryseitiau i ddilyn…

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Garddio, Llysiau. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

Un Ymateb i Riwbob, riwbob a mwy o riwbob

  1. Hysbysiad: Riwbobmania | Blog Carl Morris | Carl Morris

Gadael sylw