Creu cawell

Bore caled o waith draw ar y rhandir heddiw… a drodd yn brynhawn caled o waith hefyd. I ddechrau, aeth y gŵr ati i dacluso’r danadl poethion o amgylch y patsh, a dod o hyd i’r lindys hyn…


Mae’n debyg taw lindys y fantell paun ydyn nhw, felly gallwn ni ddisgwyl rhai o’r rhain yn yr haf.

Sylwon ni fod y mafon yn dechrau dod hefyd – dyma’r ffrwyth cyntaf.


Ond y prosiect mawr heddiw oedd creu cawell ar gyfer ysgewyll a brocoli porffor y gaeaf – sy’ dal yn fach iawn ar hyn o bryd, ond y bydd angen eu diogelu rhag yr adar maes o law. Llwyddodd aderyn du i dorri mewn i’r cawell gwnaethon ni ei greu’r llynedd, ac adeiladu nyth yn y cnwd, felly roedd angen i ni geisio dysgu o’r wers honno!

Dechreuon ni drwy osod stanciau i’r planhigion, gan adael digon o le i’r coesau dyfu, a rhoi digon o belenni lawr i’w diogelu nhw rhag y gwlithenni.


Ar ôl hynny, dechrau creu’r strwythur allan o wiail gan greu ciwb syml – wedyn penderfynu atgyfnerthu’r bocs drwy roi gwiail ychwanegol rownd yr ochrau ac ar hyd y to. Gymrodd hyn oll fwy o amser nag oedden ni wedi’i fwriadu – yn bennaf am ein bod ni wedi creu wopar o strwythur, heb rîl baratoi cynllun ‘mlaen llaw – felly roedden ni’n gweithio popeth mas wrth i ni fynd yn ein blaenau. Wnaeth y cawodydd o law ddim helpu chwaith.

Roedd gennym ni rholyn o rwyd sgaffaldau i roi o amgylch yr ochrau ac ar y to, a gwnaethon ni geisio clymu honno at y gwiail yn well eleni fel bod dim tyllau i adael rhagor o adar i mewn. Roedd hi’n bwrw glaw yn drwm erbyn i ni gyrraedd y cam hwn, felly mae ambell i asiad heb ei gorffen a bydd angen i ni eu gwneud nhw to rhyw benwythnos arall. Ta beth, dyma beth oedd gennym ni erbyn i orffen heddiw.


Mae llwyth o strwythurau tebyg draw ar y rhandiroedd – o bethau hap a damwain fel ein cawell ni i brosiectau adeiladau go iawn. Am ryw reswm, ma nhw wastad yn neud i fi wenu, oherwydd er gwaetha’r golwg tila sy’ ar y rhan fwyaf ohonyn nhw, maen nhw’n dangos bo pobl yn cymryd hyn o ddifrif. Arwydd bach o’r ymdrech ‘dy’n ni’n barod i’w wneud i geisio gofalu am ein planhigion! Wn i ddim os lwyddwn ni ‘lenni, ond gobeithio wir y bydd ein hymdrech diweddara’ ni’n para’n well na chynnig y llynedd.

Cwpwl o’r strwythurau eraill sy’n gwneud i fi wenu draw ar y rhandiroedd….

project ‘go iawn’ o bren a phlastig yn y cefndir… sda nhw ‘deck’ a phopeth

un o’r patshys mwya twt a thaclus i fi ei weld

Cafodd y cofnod ei gyhoeddi yn Uncategorized. Gosod Nod Tudalen i'r ddolen barhaol.

2 Ymateb i Creu cawell

  1. Hysbysiad: Diwrnod ar y rhandir mewn lluniau… | Hadau

  2. Hysbysiad: Hydref ar y rhandir | Hadau

Gadael sylw